If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Fel y daeth drwodd yn gryf yn yr Asesiad Llesiant, mae pobl yn falch iawn o'r ardal, y dirwedd a'r dreftadaeth sy'n gwneud Cwm Taf yn unigryw. Mae twristiaeth yn faes twf i'r economi ar gyfer y rhanbarth ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o hyn.
Yn ein blwyddyn gyntaf, gwnaethon ni gynnal yr adolygiad diagnostig ar y cyd cyntaf o'r ardal. Gwnaethon ni'n ymgysylltu â darparwyr lletygarwch a hamdden i ddeall eu harferion gwaith, eu hanghenion hyfforddi a sgiliau, eu gofynion cymorth.
Ym mlwyddyn dau, byddwn ni'n yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i nodi cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth ac unrhyw fylchau, nawr ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n archwilio cyfleoedd i weithio gydag ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant i gryfhau'r sector twristiaeth yma yn Cwm Taf.
Byddwn ni'n gweithio'n agos fel un corff ledled y rhanbarth, gan archwilio ffyrdd o integreiddio â mentrau fel Parc Rhanbarthol y Cymoedd i greu profiad i ymwelwyr Cwm Taf, gyda phresenoldeb pwrpasol ategol ar y we.
Byddwn ni'n hefyd yn parhau i wneud y gorau o'n hasedau a'n mannau gwyrdd gwych a'n grwpiau cymunedol gweithredol, gan sicrhau'r effaith fwyaf y gall y rhain ei chael ar ein lles.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |