Ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod yr holl gyrff cyhoeddus dan sylw yn meddwl mwy am y tymor hir, yn gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac yn ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cydgysylltiedig at ei waith.

Ein nod cyffredinol dros Gwm Taf yw cyfrannu at y saith Nod Llesiant cenedlaethol i Gymru, h.y.:

Pwrpas y BGC yw sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd i wella lles ein cymunedau, yn awr ac yn y dyfodol, trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol. Fel BGC byddwn yn dilyn egwyddor datblygu cynaliadwy'r Ddeddf i helpu'r BGC i gydweithio'n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau o’r gorffennol a mynd i'r afael â rhai o'r heriau hirdymor yr ydym yn eu hwynebu yng Nghwm Taf yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful