If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Grŵp Garddio - Gan ddefnyddio rhai o'r eitemau a brynwyd o gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae'r tîm cymunedol wedi sefydlu prosiect gardd o'r Hwb Ferndale ac ar hyn o bryd mae ganddo 8 aelod gweithredol sy'n cwrdd yn wythnosol. Maent wedi dechrau datblygu ardal allanol yr Hwb.

Gan weithio gyda Cymunedau am Waith  'Drink Wise, Age Well' a 'Active Taf' byddwn hefyd yn cynnal cwrs achrededig gardd gymunedol o fis Medi gyda chefnogaeth First Campus.

Prosiect Pili-pala Ysgolion - Rydyn ni'n hefyd wedi defnyddio rhai o'r eitemau a brynwyd gan CNC i gefnogi prosiect rhyddhau pili-palaod gyda dwy ysgol leol: Ysgol Llyn Y Forwyn a Pharc Darran. Roedd plant yr ysgol yn gallu gwylio cylch bywyd y lindysyn a'r newid i ieir bach yr haf cyn ymweld â Pharc Darran a rhyddhau'r pili-palaaod gyda'r plant

O fis Medi, mae tîm cymunedol The Fern Partnership yn bwriadu gweithio gyda’r ysgolion a’r teuluoedd a datblygu prosiectau awyr agored ac amgylcheddol yn yr Hwb ac mewn ysgolion lleol ac mae’r tîm yn creu grŵp Garddio ac Amgylcheddol ‘Green Sleeves’.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |