Gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yw:

Gwella ansawdd bywyd a chanlyniadau i ddinasyddion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (yr ardal Cwm Taf).

Darparu arweinyddiaeth ar y cyd, sy’n rhagweithiol ac yn mynd i’r afael â materion mwyaf heriol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

Ysgogi deialog, cyd-drefnu a chydweithredu rhwng sefydliadau sector cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn gwella ac integreiddio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau i’r dinesydd.

Dileu “atalfeydd” neu rwystrau eraill gan leihau biwrocratiaeth a’r effeithiolrwydd ataliol o ffiniau sefydliadol.

Dathlu llwyddiant yn y ddarpariaeth o wasanaethau i ddinasyddion Cwm Taf.

Ystyried ‘gwerth gorau’ a doethineb mewn gwariant o adnoddau gwasanaethau cyhoeddus ac i ymchwilio meysydd lle bydd cydweithio/ integreiddio yn darparu mwy o effeithlonrwydd a gwell canlyniadau. Cynnwys dinasyddion mewn dylanwadu ar sut rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus.

I ddangos ei hymrwymiad i ddatblygu gwasanaeth cyhoeddus cydweithredol sy'n rhoi'r bobl yng Nghwm Taf yn ei ganolfan, cytunodd y BGC ddatganiad o fwriad ym mis Hydref 2016 ynghylch sut y byddai ei waith o fudd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf nawr ac yn y yn y dyfodol.

Bydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gyfeirio gan ei Gynllun Llesiant . Er mwyn ysgrifennu'r Cynllun hwn, cynhaliodd y BGC Asesiad Lles ac Asesiad Poblogaeth

Yn ogystal, mae gan y BGC ffrydiau gwaith hefyd. Cytunodd y bwrdd ffocws y ffrydiau gwaith hyn yn ei gyfarfod ym mis Mai 2016.

Mae’r BGC yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnyd sy’n cael ei wneud