Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg

Mae ein cynllun llesiant yn nodi sut y byddwn yn cydweithio i wella llesiant yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Egwyddor drosfwaol y cynllun llesiant yw sicrhau Cwm Taf Morgannwg sy’n fwy cyfartal

Mae ein Cynllun Llesiant yn cynnwys dau amcan:

Cymdogaethau Lleol Iach – Cwm Taf Morgannwg lle mae ein cymunedau’n gynhwysol, yn teimlo’n gydlynus a lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Cymdogaethau Lleol Cynaliadwy a Chydnerth – Cwm Taf Morgannwg lle’r ydym yn deall ac yn ymateb i risg newid hinsawdd i’n cymunedau. I wneud hyn rhaid i ni werthfawrogi, rheoli a mwynhau ein mannau gwyrdd a glas yn gyfrifol.

Y Cynllun Llesiant

Fersiwn Hawdd i’w Darllen o’r Cynllun Llesiant

Adroddiad ymgysylltu