Rydym yn falch o gyflwyno ein Hasesiad Llesiant ar gyfer Cwm Taf Morgannwg!
Mae’r gwaith hwn wedi’i seilio ar ddwyn ynghyd lawer o ddata a gwybodaeth o bob rhan o bartneriaethau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a RhCT yn ogystal â chanfyddiadau’r amser a dreuliasom yn hydref 2021 yn cael sgyrsiau â phobl a grwpiau o ar draws y rhanbarth.
Gellir dod o hyd i'r ddogfen Asesu lawn YMA ac mae gennym hefyd gyfres o grynodeb o daflenni ffeithiau fesul thema:
Mae crynodeb o’r gwaith ymgysylltu a wnaed yn hydref 2021 hefyd ar gael ochr yn ochr â’n hadroddiad ymgynghori yn seiliedig ar adborth ar yr asesiad drafft a rannwyd gennym ym mis Chwefror 2022. Rydym am estyn diolch enfawr i bawb a fu’n ymwneud â’r gwaith asesu! Byddwn yn defnyddio canfyddiadau ein hasesiad i ddatblygu ein blaenoriaethau llesiant a’n Cynllun newydd. Cadwch olwg ar y wefan am newyddion ar sut y gallwch gymryd rhan neu cysylltwch â ni: Kirsty.smith3@rctcbc.gov.uk a lisa.toghill@rctcbc.gov.uk