Llesiant Cwm Taf
Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ydy gwella llesiant amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru. O dan y Ddeddf yma mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf wedi cyhoeddi ei Asesiad Llesiant.
Mae'r Asesiad Llesiant yn darparu trosolwg o gyflwr llesiant yng Nghwm Taf ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yn llywio Cynllun Llesiant Lleol Cwm Taf. Bydd gwaith datblygu a chyhoeddi'r Cynllun Llesiant yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid – gan gynnwys cymunedau – yn y gwaith pwysig yma.
Mae Asesiad Llesiant Cwm Taf llawn i'w weld yma a mae tudalennau gwe cryno i'w weld yma.