Lansiwyd Hwb Cymunedol Rhondda Fach yn swyddogol ar 11 Gorffennaf 2019 - darllenwch fwy yma.
Wedi’i leoli yn hen Ysgol Ferndale, mae’r ‘Hwb’ yn darparu gofal plant i’r gymuned drwy’r sefydliad angor Phartneriaeth Fern, gwasanaethau llyfrgell a lle i grwpiau ac unigolion eu defnyddio gan gynnwys wi-fi ac ystafell TG.
Bydd yr Hwb hefyd yn bwynt ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth i drigolion lleol ac mae’n rhan o’r gwaith ‘Parth Cymunedol’ ehangach. Fel rhan greiddiol o'r Hwb, bydd Partneriaeth Fern yn gyfrifol am gefnogi a datblygu'r rhwydwaith cymunedol o fewn yr ardal, gan helpu gwasanaethau lleol i dyfu ar gyfer trigolion o bob oed ac o bob cefndir.
Mae Louise Clement, cydlynydd cymunedol yr ardal, yn gweithio i gryfhau datblygiad cymunedol a sefydlu rhwydweithiau cymdogaeth.