Mynd o Gwmpas y Lle

Gwyddom fod gallu teithio o gwmpas Cwm Taf a’r tu hwnt yn bwysig i bobl – mae’n effeithio ar sut rydym ni’n gweithio, yn defnyddio’n hamser hamdden ac yn rhyngweithio ag eraill.

Defnyddiwch y tab hwn i ddysgu sut mae’r Bwrdd Gwasanaethu Cyhoeddus yn edrych ar ddulliau o gysylltu pobl a lleoedd, gan gynnwys cydweithredu ac adeiladu ar raglenni buddsoddi, fel y fargen ddinesig, i gyflawni ei amcanion a beth mae hynny’n ei olygu i chi. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am ein cludiant cyhoeddus, ffyrdd a theithio llesol yng Nghwm Taf.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus Ni fydd datblygu'r Canolfannau fel calon y gymuned yn golygu dim os na fydd pobl yn gallu eu cyrraedd nhw a’u gwasanaethau. Cliciwch i ddysgu mwy am sut i gyrraedd Calon Las yn y Gurnos a Chanolfan Glynrhedynog.

Pobl Iach Mae opsiynau teithio ‘llesol’, fel cerdded a seiclo, yn ardderchog i’n llesiant, ein hiechyd a’n hamgylchedd. Mae gan Gwm Taf lawer o lwybrau teithio llesol yn ogystal â llwybrau cyhoeddus eang, gan gynnwys Llwybr Taf a Trevithick – dysgwch fwy ym Merthyr / Rhondda Cynon Taf.

Economi Gryf Mae angen isadeiledd modern ac addas i greu economi gryf a bydd ardal Cwm Taf yn disgwyl manteisio ar y cyfleoedd sy’n dod drwy fuddsoddiadau fel y Fargen Ddinesig. Mae’r isadeiledd modern hwn hefyd yn golygu cadw cyflymder â cherbydau allyriannau isel, e.e. cerbydau trydanol neu hybrid a gweithio i leihau ein hôl-troed carbon o ran teithio.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig Mae methu â gallu mynd allan neu ddefnyddio gwasanaethau yn gallu peri neu gynyddu teimlo’n unig ac yn ynysig. Yn aml bydd grwpiau lleol yn dibynnu ar wasanaethau cludiant gwirfoddol a gwyddom fod prinder yng Nghwm Taf. Cliciwch i ddysgu mwy am gludiant cymunedol.