Diwylliant ac Amgylchedd

Gwyddom fod pobl Cwm Taf yn falch iawn o’r ardal a’i threftadaeth, a’r ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol. Mae’r cymoedd a’n mannau trefol a gwyrdd yng Nghwm Taf yn un o’n hasedau pennaf, gan gynnig cyfleoedd unigryw i fynd allan a mwynhau’r hyn sydd ar garreg y drws. Mae’r diwylliant a’r amgylchoedd rydyn ni’n eu mwynhau heddiw wedi eu siapio gan ein hanes ond mae’n gyffrous gweld a siapio sut mae hynny’n datblygu am genedlaethau’r dyfodol.

Mae newid hinsawdd yn her fawr i’r ardal, a gallwch ddarganfod sut mae sefydliadau’n ymateb yn eu strategaethau newid hinsawdd: Strategaeth Newid Hinsawdd RhCT

Defnyddiwch y tab hwn i gael gwybod am ddefnyddio’n diwylliant ac amgylchoedd, a’r cyfleusterau hamdden a chelf sydd o ddiddordeb. Dyma gyfle i weld hefyd sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector hwn i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am y pwnc hwn.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus mae ysbryd cymunedol cryf yn hanfodol i fagu cydnerthedd. Mae Canolfannau Cymunedol, fel y rhai yng Nglanrhedynog a Gurnos, yn rhoi cyfleoedd i grwpiau cymunedol gwrdd a chymdeithasu, yn ogystal â dysgu sgiliau fel siarad Cymraeg.

Pobl Iach rhan o ddull iach o fyw yw bod yn weithgar. Mae gan Gwm Taf lawer o gyfleoedd ardderchog dan do ac awyr agored i’w gwneud yn ddifyr ac yn bleserus bod yn weithgar. Gallai ymrwymo i fod yn fwy gweithgar fod eich newid bach chi sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Economi Gryf mae ein diwylliant a’n hamgylchoedd yn denu ymwelwyr i’n hardal – mae’r cymoedd yn enwog fel maes chwarae Cymru ac mae gennym ni atyniadau twristaidd allweddol rydym ni’n awyddus i’w gwella fel rhan o gynnig Cwm Taf. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis tri o barciau Cwm Taf i fod yn safleoedd porth i Barc Rhanbarthol y Cymoedd, sef Parc Cyfarthfa, Parc Cwm Dâr a Pharc Ynysangharad.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig mae ein diwylliant bywiog a’n hysbryd cymunedol wedi eu seilio ar ein grwpiau cymunedol. Mae ein hadeiladau a’n hamgylchoedd naturiol yn cynnig cyfleoedd am gymdeithasu, mynd allan a gwneud ffrindiau newydd neu ddysgu sgiliau newydd. Mae gwirfoddoli’n rhan o’n diwylliant hefyd, ac yn gallu helpu trechu teimlo’n unig ac yn ynysig.