Disodli diodydd llawn siwgr ledled Cwm Taf

Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf ddyletswydd i wella iechyd a lles poblogaeth Cwm Taf. Yn 2018, penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gael gwared ar bob diod siwgr ychwanegol o safleoedd sector cyhoeddus, a’u disodli â dewisiadau mwy iach fel diodydd heb siwgr, sudd ffrwythau a smwddis heb siwgr ychwanegol, dŵr, a the a choffi lle maen nhw ar gael.

Pam ydyn ni wedi gwneud hyn?

Mae ymchwil a thystiolaeth dros lawer o flynyddoedd wedi dangos bod diodydd sydd wedi cael eu melysu’n artiffisial â siwgr yn achosi iechyd deintyddol gwael, a’u bod hefyd yn gallu cyfrannu at fagu pwysau.

Mae pobl o bob oed yn bwyta ac yn yfed gormod o siwgr.[i] Mae hyn yn un o’r rhesymau mae pobl yn magu gormod o bwysau, all achosi iechyd gwael. Yng Nghwm Taf, mae 1 ymhob 3 oedolyn yn ordew, ac mae 2 ymhob 3 dros eu pwysau. Yn ein hardal ni, mae 14.4% o bob plentyn 4 a 5 mlwydd oed yn ordew - dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru.[ii]

Mae dannedd bron i hanner y plant sy’n byw yng Nghwm Taf yn pydru erbyn eu bod yn 5 mlwydd oed. Mae hyn yn fwy na gweddill Cymru, lle mae’r cyfraddau pydredd dannedd wedi cwympo dros y blynyddoedd diwethaf.[iii]

Mae llawer o ysbytai a sefydliadau eraill ledled y byd wedi cael gwared ar ddiodydd siwgr ychwanegol.[iv] Yn ogystal â hyn, mae’r diwydiant diodydd wedi dweud bod pobl yn dechrau deall y difrod y gall gormod o siwgr ei wneud, a’u bod yn chwilio am ddewisiadau mwy iach. Yn 2016, roedd 75% o werthiant Pepsi yn dod o ddiodydd heb siwgr ychwanegol.[v]

Beth am bobl gyda diabetes y mae angen iddyn nhw reoli glwcos isel yn eu gwaed (hypo)?

Dylid trin hypoglycemia trwy gymryd bwyd neu ddiod sy’n llawn siwgr mor gyflym â phosibl.[vi] Bydd sudd ffrwythau ar gael o hyd mewn peiriannau gwerthu a llefydd bwyd ar safleoedd y GIG yng Nghwm Taf. Gan na fydd diodydd siwgr ychwanegol eraill ar gael ar safleoedd sector cyhoeddus ledled Cwm Taf, dylai pobl sydd gyda diabetes gario tabledi glwcos neu gynhyrchion tebyg, sydd ar gael yn eang o fferyllwyr a siopau.

Os oes unrhyw bryderon gyda chi, siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am gyngor.

Beth am ddiodydd chwaraeon ar ôl mynd i’r gampfa neu chwarae chwaraeon?

Gall diodydd chwaraeon fod yn ddefnyddiol pan fyddwch chi’n gwneud chwaraeon lefel uchel sy’n eich gwthio i’r eithaf, lle bydd angen hwb egni arnoch chi.

Ond dydyn nhw ddim yn wahanol i unrhyw ddiodydd eraill sy’n llawn siwgr, sy’n golygu eu bod yn cynnwys llawer iawn o galorïau ac yn cyfrannu at bydredd dannedd. Mae rhai diodydd chwaraeon yn cynnwys 6 ciwb o siwgr neu fwy.

Oni bai eich bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon lefel uchel sy’n eich gwthio i’r eithaf, dŵr yw’r dewis iachach a’r ffordd orau o ddisodli’r hylifau golloch chi wrth wneud ymarfer corff.

Ydy yfed diodydd sy’n cynnwys melysyddion yn ddiogel?

Mae melysyddion yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn bwydydd a diodydd. Mae Cancer Research UK a’r US National Cancer Institute wedi dweud nad ydy melysyddion yn achosi canser.

Mae Cancer Research UK wedi dweud bod “astudiaethau mawr sydd wedi astudio pobl wedi darparu tystiolaeth gadarn bellach bod melysyddion artiffisial yn ddiogel”.

Mae pob melysydd yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael asesiad diogelwch trylwyr gan Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop cyn bod modd ei ddefnyddio mewn bwyd a diod.

Tystiolaeth

     
1 object(s)

Anfonwch eich cwestiynau a'ch sylwadau