Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn cwmpasu ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Ei bwrpas yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gryfhau gweithio ar y cyd a chyhoeddi ei Gynllun Lles cyntaf ym mis Mai 2018.
Cyhoeddodd y Bwrdd ei Adroddiad Blynyddol cyntaf ym mis Gorffennaf 2019 ac Adroddiad Blynyddol dros dro wedi'i ddiweddaru ar gyfer ei ail flwyddyn ym mis Gorffennaf 2020.