Mae'n bosibl eich bod yn gwybod bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig ym mis Medi 2020.

Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi’r CDLl diwygiedig ers hynny, a hyn drwy gydol pandemig COVID-19. Serch hynny, cafodd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig effaith andwyol ar baratoi camau cychwynnol yr adolygiad yma.

O ganlyniad i’r uchod, yn anffodus doedd dim modd i ni gyflawni'r amserlen mewn perthynas â'r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi ein Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl diwygiedig ym mis Tachwedd 2021, fel sydd wedi'i nodi yn y Cytundeb Cyflawni ffurfiol. Rydyn ni wedi ystyried yn fanwl nifer o ffyrdd i fynd i'r afael â hyn.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Arfaethedig Rhondda Cynon Taf 2022-2037

Yn unol â hynny, mae’r ateb mwyaf priodol wedi’i gynnig (ond heb ei gytuno’n llawn eto gan Gyngor RhCT), sef atal gwaith baratoi’r CDLl diwygiedig presennol a dechrau paratoi CDLl diwygiedig newydd. Byddai cyfnod y cynllun yma'n 15 mlynedd – o 2022 tan 2037.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni baratoi Cytundeb Cyflawni newydd. Mae Cytundeb Cyflawni yn nodi amserlen ar gyfer paratoi'r Cynllun gan gynnwys pryd y byddwn ni'n ymgynghori â rhanddeiliaid ar wahanol adegau, yn ogystal â Chynllun Cynnwys y Gymuned sy'n nodi sut y byddwn ni'n ymgynghori â chi. Rydyn ni wedi paratoi Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer CDLl diwygiedig arfaethedig 2022–2037.

Bydden ni'n croesawu sylwadau ar unrhyw ran o’r Cytundeb Cyflawni dros y tair wythnos nesaf. Dyma ofyn i chi gyflwyno unrhyw sylw drwy e-bost (i’r cyfeiriad e-bost yma (CDLl@rctcbc.gov.uk) erbyn 5yh ar 23 Chwefror 2022.

Mae modd darllen y Cytundeb Cyflawni Drafft ar ein tudalen we yma:

www.rctcbc.gov.uk/YmgynghoriadaryCynllunDatblyguLleolDiwygiedig

Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen we honno ynghylch sut rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad yma, ynghyd â rhywfaint o ganllawiau cychwynnol ar Safleoedd Ymgeisiol a’r gwaith a wnaed hyd yma. Mae hefyd yn nodi gofynion pellach o ran dod i benderfyniadau.

Os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi am y Cynllun Datblygu Lleol rhagor, e-bostiwch CDLl@rctcbc.gov.uk i dynnu'ch enw oddi ar ein rhestr ymgynghori. Nodwch y bydd tynnu'ch enw oddi ar y rhestr yma yn golygu na fyddwn ni'n cysylltu â chi am unrhyw agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol.