Bellach, rydyn ni wedi dechrau cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ar draws Rhondda Cynon Taf.

Yn ystod mis Rhagfyr, bu Cabinet y Cyngor yn trafod y cynnig, a fyddai'n dynodi'r Fwrdeistref Sirol gyfan yn Barth Yfed a Reolir. Byddai'r Gorchymyn newydd yn rhoi’r pŵer i'r heddlu a swyddogion awdurdodedig y Cyngor i ofyn i unrhyw berson beidio ag yfed ac ildio alcohol os ydyn nhw'n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu'n debygol o wneud hynny.

Byddai'r Gorchymyn arfaethedig hefyd yn cyflwyno dau barth gwahardd penodol yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd (gan gynnwys rhan isaf y Graig). Byddai'r parthau yma'n atal pobl rhag cymryd/defnyddio sylweddau meddwol, gan gynnwys yfed alcohol, mewn mannau cyhoeddus ledled canol y trefi.

Yn rhan o'r ymgynghoriad, gall trigolion fynd i wefan y Cyngor i gael gwybodaeth fwy manwl am y Gorchymyn arfaethedig, a llenwi holiadur ar-lein lle bydd modd iddyn nhw roi'u sylwadau ar y cynnig.

Bydd y Cyngor hefyd yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd - lle gall trigolion ddweud eu dweud am y cynigion wyneb yn wyneb. Bydd y Cyngor yn rhoi rhagor o fanylion am y digwyddiadau ymgysylltu yma maes o law.

I lenwi'r holiadur a chael rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn arfaethedig, cliciwch yma 

Bydd y broses ymgynghori yn dod i ben ddydd Llun, 12 Mawrth