Arian a Swyddi

Mae meddu ar gyflogaeth a theimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi yn gallu cael effaith fuddiol ar ein hymdeimlad o lesiant. Dymunwn i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf ennill cyflog deg a chael swyddi da a medrus, a dymunwn gydnabod y gwerth i’r economi leol sy’n cael ei gyfrannu gan y sawl sy’n rhoi eu hamser a’u sgiliau drwy wirfoddoli yng Nghwm Taf.

Defnyddiwch y tab hwn i ddysgu am yr economi leol, a sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector hwn i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am lefelau addysg a sgiliau Cwm Taf.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus Mae'r mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda thrigolion Rhondda Fach Uchaf a Gurnos i adeiladu cymuned sy’n elwa ar gyfradd gyflogaeth uchel a gweithlu medrus, nawr ac yn y dyfodol. Dysgwch fwy am beth sy’n digwydd yn ein Parthau Cymunedol a dulliau rydym ni’n rhoi cynnig arnyn nhw am lwybrau i mewn i gyflogaeth a hyfforddiant.

Pobl Iach Mae gweithlu sy’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol yn hanfodol i’r economi leol, ac i’n cymunedau. Bydd mabwysiadu ac annog ymddygiadau iach gyda’n staff a dinasyddion yn effeithio’n bositif ar gyfraddau absenoldeb salwch a theimladau o lesiant.

Economi Gryf Rydym yn gweithio i symbylu a hybu dyheadau a sgiliau’n pobl i fodloni cyfleoedd gyrfa’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys cymryd mantais o gyfleoedd buddsoddi a datblygu fel gwaith y Fargen Ddinesig a Thasglu’r Cymoedd. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddatblygu gweithlu medrus, gan fodloni’r galw presennol a gofynion y dyfodol ledled y sector cyhoeddus a’r tu hwnt fel rhan o’n gwaith gydag Adduned Cyflogadwyedd Cwm Taf.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig Ac eithrio helpu i ymdrin â theimladau o unigedd, mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddysgu a rhannu sgiliau ac yn cyfrannu’n sylweddol at ein heconomi. Gall y sgiliau sy’n cael eu dysgu arwain at yrfaoedd a chyfleoedd newydd, a chodi dyheadau.

Gwyddom hefyd fod cael arian yn ei gwneud yn haws cymdeithasu, teithio, ac yn lleihau teimladau o fod yn unig ac yn ynysig.