Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar gynigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer ei Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

Diben yr Amcanion Cydraddoldeb yw atgyfnerthu’r sylw a rown i’r anghenion canlynol:
• dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
• hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
• meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Byddwn yn ystyried pob barn wrth gwblhau ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24

Gellir gweld yr ymgynghoriad ar-lein yma tan 10fed Chwefror 2020.