Ydych chi am wybod mwy am a chymryd mwy o ran yn yr ardal yr ydych yn byw? Wel, nawr mae ‘na wefan newydd a all helpu chi i wneud hynny.

Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (BGC) gwefan ddwyieithog newydd 'Ein Cwm Taf' sy'n darparu un pwynt mynediad at wybodaeth am ardaloedd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys dod o hyd i gefnogaeth llesiant lleol.

Casgliad o gyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i wella lles cymunedau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful nawr ac yn y dyfodol yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf.

Dywedodd Peter Vaughan, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf: "Fel preswylydd Cwm Taf gallwch ddefnyddio'r wefan hon i ddysgu am beth yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, pa sefydliadau sy’n rhan ohono, beth a wnawn, a sut ydym yn gweithio.

"Mae ‘na hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys ystadegau ar ardal Cwm Taf, gan nodi ffigurau cyflogaeth, cyrhaeddiad addysgol, mesurau o ystadegau economaidd allweddol, iechyd a defnydd o'r Gymraeg.

"Prif nod y wefan yw i wneud y gwaith rydym yn ei wneud yn fwy gweladwy i chi ac i roi gwybod sut y gallwch gymryd rhan ynddo. Gobeithiaf y byddwch yn gallu edrych arno, a chymryd rhan yn ein gwaith fel yr ydym yma i wella llesiant cenedlaethau'r dyfodol, felly byddwn yn falch iawn i chi wybod mwy am ein gwaith ac i chi i roi eich barn arno."

Rhestrir meysydd blaenoriaeth y BGC ar y wefan a gallwch ddefnyddio'r ystod o wybodaeth a data ar y tudalennau i fonitro cynnydd a pherfformiad y BGC, ac i ddwyn y BGC i gyfrif. Mae gennych hefyd y cyfle i roi adborth ynghylch yr hyn yr ydych yn meddwl  yw’r meysydd cywir i flaenoriaethu, ac a yw gwaith y BGC yn gwneud gwahaniaeth.

Un o feysydd allweddol o waith y BGC yw’r amcanion llesiant. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, daethpwyd at dri o amcanion drafft ynghylch sut gall y BGC wella lles pobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardal Cwm Taf. Mae gwefan Ein Cwm Taf yn rhoi cyfle i bobl roi gwybod i’r BGC os yw’r amcanion cywir gyda ni, ac os ydynt yn fodlon ar y camau rydym ni’n eu cymryd i'w cyflawni.

Cyfeiriad y wefan newydd yw www.ourcwmtaf.wales / www.eincwmtaf.cymru.