Heddlu De Cymru yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru ac er ei fod yn cwmpasu ardal ddaearyddol fach ag arwynebedd o tua 812 o filltiroedd sgwâr, sy’n cyfateb i ddim ond 10% o arwynebedd daearyddol Cymru, mae Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl (42% o boblogaeth y wlad).

Y Prif Gwnstabl Matt Jukes a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael sy’n gyfrifol am bennu’r blaenoriaethau plismona ar gyfer Heddlu De Cymru.

Mae gan yr heddlu bron i 3000 o swyddogion yr heddlu a thros 2200 o staff yr heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a thîm o wirfoddolwyr ymroddgar sy’n cynnwys dros 100 o Gwnstabliaid Gwirfoddol a thua 150 o Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu.

Mae ardal Cwm Taf yn cael ei phlismona gan Yr Adran Ogleddol sy’n rhan o Heddlu De Cymru. Prof Uwcharolgydd Belinda Davies sy’n gyfrifol am yr ardal ddaearyddol hon.

Ar hyn o bryd mae gan Adran ddwy orsaf heddlu sy’n darparu mynediad i’r cyhoedd, gorsaf heddlu Merthyr Tudful (0800-1800) a gorsaf heddlu Pontypridd (0800-1800). Y gorsafoedd eraill yn Aberdâr, Tonysguboriau, Porth and Ton Pentre. Mae gorsaf Aberpennar yn gartref I Droseddau Mawr.

Matt Jukes

Prif Gwnstabl

Belinda Davies

Prif Uwcharolgydd, Yr Adran Ogleddol

Cyswllt poblogaidd

Rhagor o wybodaeth