Gyda Bwrdd cryf, 1,700 o staff a chyllideb o £106 miliwn, mae’r sefydliad yn cyflogi’r rhan fwyaf o’r adnodd iechyd y cyhoedd arbenigol yng Nghymru.
Rydym yn rhoi cyngor, arbenigedd a gwasanaethau arbenigol i Lywodraeth Cymru (gan weithio ar draws adrannau), y saith bwrdd iechyd, dwy Ymddiriedolaeth y GIG, 22 awdurdod lleol, asiantaethau eraill a phoblogaeth Cymru.
Rydym yn darparu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd, arbenigedd gwyddonol a gwybodaeth i arwain trawsnewid ac ysgogi ffocws ar sicrhau ein bod yn cyflenwi gwelliannau diriaethol mewn canlyniadau iechyd a lles ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Mae iechyd a llywodraeth leol ymysg y meysydd sydd wedi eu datganoli yng Nghymru ac felly, gan weithio’n genedlaethol ac yn lleol, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fynediad i ysgogwyr polisi a systemau cyflenwi lleol trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid.