Mae 11-15 Tachwedd yn Wythnos Genedlaethol Diogelu, gyda sefydliadau ledled Cymru yn gweithio i dynnu sylw at y mater pwysig yma.

Mae Cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'u partneriaid, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Heddlu De Cymru, i sicrhau bod pawb yn effro i arwyddion camdriniaeth neu esgeulustod mewn plant neu oedolion, ac yn gwybod sut i dynnu sylw at eu pryderon.

Yn ystod yr wythnos, mae digwyddiadau codi ymwybyddiaeth wedi’u trefnu ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn ardal Cwm Taf Morgannwg (RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr). Bwriad hyn yw atgyfnerthu negeseuon allweddol ynghylch diogelu.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gweithgareddau, cliciwch ar y ddolen isod:

Wythnos Ddiogelu 2019 - Rhaglen Ddigwyddiadau