If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Cartref a Thai

Mae teimlo’n ddiogel ac mewn cartrefi cynnes, sych yn hanfodol i’n llesiant. Pan feddyliom ni am gymunedau’r cymoedd, dychmygwn resi o dai teras fel rhan o’n gorffennol mwyngloddio, ond mae amserau a chwaeth yn newid ac mae arnom ni angen i gartrefi a thai yng Nghwm Taf aros yn addas, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy. Hefyd mae arnom ni angen gartrefi a chymunedau addas a phriodol i’n poblogaeth sy’n newid.

Defnyddiwch y tab hwn i ddysgu am y stoc tai yng Nghwm Taf, cael gafael ar gymorth os ydych chi’n cael anawsterau yn eich cartref a chyngor ar bwy i gysylltu â nhw os ydych chi mewn perygl o ddigartrefedd. Hefyd gallwch chi ddysgu sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector hwn i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am y pwnc hwn.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus gyda'i gilydd mae ein cartrefi’n ffurfio ein cymunedau ac mae cael rhywle diogel i aros yn allweddol i feithrin cydnerthedd. Bydd rhwydweithiau cymdogaeth fel y rhai sy’n cael eu sefydlu yng Nglynrhedynog a Gurnos yn helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth i greu’r cartrefi diogel hyn.

Pobl Iach mae byw mewn amodau tai gwael, fel ystafelloedd llaith neu ansawdd aer gwael, yn effeithio ar ein hiechyd. Mae gallu aros yn iach gartref yn gwella ein llesiant corfforol a meddyliol ac yn hyrwyddo bod yn annibynnol am gyhyd ag sy’n bosibl.

Economi Gryf Dymunwn i bobl weithio, gorffwys a chwarae yng Nghwm Taf ac mae mwynhau llety fforddiadwy ac addas yn hanfodol i hyn. Wrth feddwl am ddatblygiadau’r dyfodol, mae’n rhaid i ni ystyried mynediad i fannau gwyrdd neu agored, cysylltiadau cludiant ac opsiynau tai gwyrdd.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig mae tai sy’n bellenig yn ffisegol neu dai nad ydyn nhw’n addas i’w preswylwyr yn gallu arwain at deimlo’n unig ac yn ynysig. Mae gwasanaethau sy’n gallu helpu pobl i fynd allan, sy’n rhoi rhesymau i fynd allan a chyngor am wneud tai yn fwy addas i’w preswylwyr.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |