If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Iechyd a Gofal

Dymunwn i bobl Cwm Taf fyw mor iach â phosibl am gyhyd â phosibl.

Defnyddiwch y tab hwn i gael gwybod am gyrchu gwasanaethau iechyd a gofal yn ardal Cwm Taf, a sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector hwn i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am iechyd a gofal Cwm Taf.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda chymunedau Rhondda Fach Uchaf a Gurnos i ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd yn yr ardaloedd hynny a’i gwneud yn haws i’r sawl sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth gael gafael arnynt. Dyma ragor am beth sy’n digwydd yn y Parthau Cymunedol.

Pobl Iach Dymunwn i bobl Cwm Taf fyw bywydau hir ac iach, gan gychwyn gyda chael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn parhau drwodd i iechyd da yn eu henaint. Rydym ni’n canolbwyntio ein gwaith cychwynnol ar y 1000 diwrnod cyntaf (beichiogrwydd i 2 oed [link to F1000D]) a’r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd (link to One Small Change Campaign).

Economi Gryf Gwyddom fod cyfran fawr o’n gweithlu yn byw yn yr ardal. Mae angen i ni greu gweithlu lle na fydd iechyd meddyliol a chorfforol yn rhwystrau i gyflogaeth a lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu rôl (employability pledge).

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig Mae iechyd gwael yn gallu arwain yn aml at deimlo’n unig ac ynysig a’i gwneud yn fwy anodd cael gafael ar y gwasanaethau a fyddai’n cynnig cymorth, fel Dewis Cymru.

Mae llyfrgelloedd a swyddogion cymorth meddygon teulu / presgripsiynwyr cymdeithasol yn gallu cynnig cyngor da a chyfeirio at wasanaethau sydd ar gael i chi’n lleol, gan gynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd ac efallai dysgu sgiliau newydd.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |