If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Gwybodaeth, Cyfathrebu a Chynnwys (ICI)

Mae'r grŵp hwn yn disodli'r Grŵp Ymgysylltu â'r Cyhoedd (PEG) ac mae'n canolbwyntio ar wella ar sut mae'r BGC yn defnyddio gwybodaeth, yn cyfathrebu ac yn cynnwys ein dinasyddion a'n partneriaid yn y ffordd rydyn ni'n yn gweithio.

Mae ICI yn cynhyrchu cylchlythyr y BGC ac yn sicrhau bod barn a lleisiau ein cymunedau yn cael eu clywed yng ngwaith y Bwrdd. Mae rhai enghreifftiau o sut mae hyn wedi digwydd hyd yn hyn yn cynnwys:

Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol ar draws y ddwy ardal, gan ofyn i'r trigolion beth oedd yn bwysig iddynt a beth ddylai ein blaenoriaethau fod.

Mae gwaith yn mynd rhagddo, trwy ein cysylltwyr cymunedol - Ceri yn Gurnos a Louise yn Rhondda Fach - i ddatblygu ‘rhwydweithiau cymdogaeth’ i helpu i gyflawni'r newidiadau yr ydyn ni’n i gyd am eu gweld. Mae hyn wedi cynnwys rhywfaint o'r gwaith i greu a gwella'r mannau gwyrdd yn y cymunedau hyn.

Am y tro cyntaf, gwnaethon ni arolygu pob un o'r busnesau llety ac atyniadau allweddol ar draws Merthyr Tudful a RhCT. Cawsom 87 o ymatebion a bydd y rhain yn helpu i lywio sut yr ydyn ni’n gweithio gyda'r sector ac yn ei gefnogi, nawr ac yn y dyfodol.

Gwyliwch i ddarganfod sut mae pobl ifanc wedi dylunio a chynhyrchu taflen wybodaeth i bobl ifanc am risgiau a sut i fod yn ddiogel, ac wedi cyfrannu at gomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghwm Taf a'u cyfrannu atynt (saesneg yn unig).


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |