Mae ap COVID-19 y GIG yn lansio 24 Medi ar draws Cymru a Lloegr a bydd yn hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru.
Rydym yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio'r ap. Y mwyaf o bobl sy'n lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID-19.
Nodweddion yr ap yw:
- Olrhain - Cewch rybudd os ydych wedi bod wrth yml defnyddwyr eraill gafodd brawf coronafeirws positif
- Rhybudd - Cewch wybod lefel y risg yn eich ardal cod post
- Cofnodi i mewn - Cewch rybudd os ydych wedi bod i rywle lle'r oedd coronafeirws
- Symptomau - Gwiriwch eich symptomau coronafeirws i weld a oes angen archebu prawf am ddim
- Prawf- Help gyda bwcio prawf a chanlyniad cyflym
- Ynysu - Cadw trac ar eich cyfnod hunanynysu a chyngor perthnasol
Mae'r ap yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau bresennol.
Gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg yma.
Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael i chi eu lawrlwytho a'u rhannu gyda'ch rhwydwaith ac ar eich sianeli cyfathrebu.
Mae fideos am yr ap, yn cynnwys fideos amlieithog, ar gael yma
Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau
Dydy’r ap ddim yn cymryd lle yr angen i fusnesau risg uchel ledled Cymru gofnodi manylion cwsmeriaid ac ymwelwyr â’u safleoedd.
Cofiwch, mae dal yn gyfraith yng Nghymru i fusnesau risg uchel gofnodi eu hymwelwyr a chadw’r manylion am 21 diwrnod.
|