Newyddion a digwyddiadau http://www.eincwmtaf.cymru/news-and-events http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Cynllun Llesiant Drafft: Dweud eich dweud! Mae Cynllun Llesiant drafft ar gyfer rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi ei ysgrifennu ac rydyn ni eisiau eich barn!

Mae dros 450,000 o bobl yn byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae lles yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a sut mae hynny'n gysylltiedig â'r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau rydyn ni eu hangen a'r diwylliant rydyn ni'n ei rannu. Mae llawer o bethau wedi siapio ein cymunedau a'n lles fel treftadaeth ddiwydiannol, y dirwedd a'r diddordebau cyffredin mewn chwaraeon a'r celfyddydau, gan roi hanes cyfoethog a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Gellir ystyried y rhain fel ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol.

Mae ein Asesiadau o Les yn darparu'r sail dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Lles hwn, mae'r data a'r wybodaeth a gafodd eu casglu wedi'u defnyddio ochr yn ochr â'r hyn mae cymunedau a phobl leol wedi'i ddweud wrthym am fywyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf. 

Thema gyffredinol ein Cynllun Lles yw 'Cwm Taf Morgannwg Mwy Cyfartal' ac mae hynny'n gyrru pob agwedd o waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Dweud eich dweud drwy gwblhau ein harolwg tan 10 Chwefror 2023, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/draft-well-being-plan-2023 Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/draft-well-being-plan-2023 http://www.eincwmtaf.cymru/draft-well-being-plan-2023 Mon, 21 Nov 2022 18:43:00 GMT
Adroddiad Blynyddol VAWDASV 2021-22 Mae’n bleser gan Bartneriaeth Strateol a Chomisiynu Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2021 – 22 ar gyfer y Strategaeth Trais yn Erbyn Manywod Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol. Dyma’r pedwerydd adroddiad blynyddol a ddarperir gan ranbarthau Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr a’r ail fel rhanbarth cyfunedig Cwm Taf Morgannwg.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/vawdasv-2021-22-annual-report Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/vawdasv-2021-22-annual-report http://www.eincwmtaf.cymru/vawdasv-2021-22-annual-report Fri, 12 Aug 2022 12:43:00 GMT
Rhaglen y Goedwig Genedlaethol Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters y byddai pob cartref yng Nghymru yn gallu casglu coeden ar gyfer eu gardd neu gael coeden wedi'i phlannu ar eu rhan. Rydym yn gweithio gyda'r Woodland Trust i wneud hyn.  Lansiwyd ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig ar 25 Chwefror pan agorwyd y 5 canolfan gyntaf.  Mae rhagor o fanylion ar gael drwy ein tudalen we bwrpasol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Nawr rydym wedi lansio map rhyngweithiol ar-lein.  Hoffem i chi ein helpu i ddeall ble yr hoffech weld mwy o goed yn cael eu plannu yn eich cymunedau drwy ollwng pin ar y map. Wrth chwyddo maint y map i weld ardal leol, gallwch osod sawl haen ddata ar ben y map wrth glicio ambell fotwm.  Gobeithiwn y bydd hyn yn darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol. Bydd yr wybodaeth a gesglir o hyn yn cael ei defnyddio i weld ble y gallai fod yn bosibl plannu coed a byddwn yn gweithio gyda thirfeddianwyr i weld beth sy'n cael ei ganiatáu a beth sy'n bosibl.  Gallwch weld y Map drwy ein tudalen we bwrpasol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Byddwn yn cydweithio â thirfeddianwyr o ddinasoedd, trefi yn ogystal ag ardaloedd gwledig i weld sut y gallwn dyfu a datblygu’r Goedwig Genedlaethol i Gymru. 

DS: Nid yw defnyddio'r map yn rhoi caniatâd i blannu coed nac yn cadarnhau y bydd coeden yn cael ei phlannu yno. Cysylltwch â thirfeddianwyr a chael y caniatâd cywir bob amser i blannu coed, gweler y ganolfan creu coetiroedd i gael rhagor o wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael help i blannu coed a chreu coetir (naturalresourceswales.gov.uk)


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/national-forest-programme Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/national-forest-programme http://www.eincwmtaf.cymru/national-forest-programme Thu, 03 Mar 2022 11:30:00 GMT
Natur a Ni Pa ddyfodol ydyn ni eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol?

Dysgwch fwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yma


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/NRW-nature-and-us Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/NRW-nature-and-us http://www.eincwmtaf.cymru/NRW-nature-and-us Thu, 03 Mar 2022 10:45:00 GMT
Asesiad Llesiant Cwm Taf Morgannwg Treulion ni amser yn hydref 2021 yn ceisio deall ein cymunedau, cael sgyrsiau ac edrych ar wybodaeth am fywyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a RhCT.

Mae'r holl waith hwn wedi'i ddwyn ynghyd i'n hasesiad llesiant drafft, a thaflenni ffeithiau cryno:

Rydyn ni'n eisiau clywed eich barn! Mae rhagor o wybodaeth a dolen i’r arolwg YMA


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/CTMAssessment_news Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/CTMAssessment_news http://www.eincwmtaf.cymru/CTMAssessment_news Thu, 17 Feb 2022 14:59:00 GMT
Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf Mae'n bosibl eich bod yn gwybod bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig ym mis Medi 2020.

Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi’r CDLl diwygiedig ers hynny, a hyn drwy gydol pandemig COVID-19. Serch hynny, cafodd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig effaith andwyol ar baratoi camau cychwynnol yr adolygiad yma.

O ganlyniad i’r uchod, yn anffodus doedd dim modd i ni gyflawni'r amserlen mewn perthynas â'r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi ein Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl diwygiedig ym mis Tachwedd 2021, fel sydd wedi'i nodi yn y Cytundeb Cyflawni ffurfiol. Rydyn ni wedi ystyried yn fanwl nifer o ffyrdd i fynd i'r afael â hyn.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Arfaethedig Rhondda Cynon Taf 2022-2037

Yn unol â hynny, mae’r ateb mwyaf priodol wedi’i gynnig (ond heb ei gytuno’n llawn eto gan Gyngor RhCT), sef atal gwaith baratoi’r CDLl diwygiedig presennol a dechrau paratoi CDLl diwygiedig newydd. Byddai cyfnod y cynllun yma'n 15 mlynedd – o 2022 tan 2037.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni baratoi Cytundeb Cyflawni newydd. Mae Cytundeb Cyflawni yn nodi amserlen ar gyfer paratoi'r Cynllun gan gynnwys pryd y byddwn ni'n ymgynghori â rhanddeiliaid ar wahanol adegau, yn ogystal â Chynllun Cynnwys y Gymuned sy'n nodi sut y byddwn ni'n ymgynghori â chi. Rydyn ni wedi paratoi Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer CDLl diwygiedig arfaethedig 2022–2037.

Bydden ni'n croesawu sylwadau ar unrhyw ran o’r Cytundeb Cyflawni dros y tair wythnos nesaf. Dyma ofyn i chi gyflwyno unrhyw sylw drwy e-bost (i’r cyfeiriad e-bost yma (CDLl@rctcbc.gov.uk) erbyn 5yh ar 23 Chwefror 2022.

Mae modd darllen y Cytundeb Cyflawni Drafft ar ein tudalen we yma:

www.rctcbc.gov.uk/YmgynghoriadaryCynllunDatblyguLleolDiwygiedig

Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen we honno ynghylch sut rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad yma, ynghyd â rhywfaint o ganllawiau cychwynnol ar Safleoedd Ymgeisiol a’r gwaith a wnaed hyd yma. Mae hefyd yn nodi gofynion pellach o ran dod i benderfyniadau.

Os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi am y Cynllun Datblygu Lleol rhagor, e-bostiwch CDLl@rctcbc.gov.uk i dynnu'ch enw oddi ar ein rhestr ymgynghori. Nodwch y bydd tynnu'ch enw oddi ar y rhestr yma yn golygu na fyddwn ni'n cysylltu â chi am unrhyw agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/rct-revised-ldp Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/rct-revised-ldp http://www.eincwmtaf.cymru/rct-revised-ldp Fri, 04 Feb 2022 17:03:00 GMT
Ymgynghoriad Gweithredu dros Natur 'Gweithredu dros Natur' yw'r cynllun gweithredu adfer byd natur newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf.  Mae modd gweld y drafft ar gyfer ymgynghoriad hyd at 11 Mawrth 2022 https://rctlnp.wixsite.com/rct-actionfornature a hoffem ni glywed eich barn chi.

Mae 'Gweithredu dros Natur' yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd eu hangen i helpu bywyd gwyllt i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n gwneud RhCT mor arbennig.

  1. 'Sut galla i helpu?' ac mae ganddo rai camau gweithredu sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer amrywiaeth o grwpiau o bobl.
  2. Mae camau gweithredu cyffredinol sy’n berthnasol i bob cynefin a rhywogaeth,
  3. gweithredoedd cynefin ar gyfer glaswelltiroedd, dwr croyw, coetiroedd, y cynefinoedd yn y dyffrynnoedd  ac ardaloedd trefol.  
  4. Mae yna hefyd adran ar rywogaethau.

Cafodd y drafft yma ei baratoi gan Bartneriaeth Natur Leol RhCT ac mae wedi cynnwys llawer o naturiaethwyr lleol, sefydliadau cymunedol a grwpiau cadwraeth gwirfoddol yn ogystal â staff o'r Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.    Bydd y wefan yn diweddaru'r adolygiad gwreiddiol (2000) ac adolygiad 2008 'Gweithredu dros Natur', sydd ar gael ar wefan y Cyngor.

Os oes gyda chi unrhyw sylwadau ar y drafft 'Gweithredu dros Natur', anfonwch e-bost at Rose Revera r.revera@npt.gov.uk erbyn 11 Mawrth 2022.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/action-for-nature Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/action-for-nature http://www.eincwmtaf.cymru/action-for-nature Fri, 28 Jan 2022 14:10:00 GMT
Lles yn Cwm Taf Morgannwg Beth mae llesiant yn eich ardal yn ei olygu i chi?

Mae llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a sut mae hynny'n gysylltiedig â'r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau rydyn ni eu hangen a'r diwylliant rydyn ni’n ei rannu.

Ond mae'n wahanol iawn i bob un ohonom. 

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf (RhCT a Merthyr) am glywed eich syniadau chi i'n helpu i gydweithio'n well ar y pethau sydd bwysicaf i bob un ohonom.

Gallwch lenwi’r holiadur ar-lein yma https://www.smartsurvey.co.uk/s/BGCCTM/  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, os hoffech gael holiadur wedi'i argraffu neu os hoffech i ni ddod i siarad â'ch grŵp cymunedol, cysylltwch â ni drwy ffurflen gyswllt, neu e-bostiwch PSB@bridgend.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fan hyn:

https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/cydweithio/bwrdd-gwasanaethau-cyhoeddus-pen-y-bont/

http://www.eincwmtaf.cymru/


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/WBA2022 Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/WBA2022 http://www.eincwmtaf.cymru/WBA2022 Tue, 16 Nov 2021 14:15:00 GMT
Cerdded a beicio yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Yn gynharach yn 2021, gofynnon ni ichi am eich barn ynghylch sut i wella llwybrau beicio a cherdded yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Roedd y cyfnod hwnnw o drafod yn llwyddiannus iawn gyda thros 1000 o bobl yn cymryd rhan. Rydyn ni wedi ystyried y sylwadau i gyd yn ofalus ac wedi cyfuno’ch barn chi â gwybodaeth berthnasol arall i lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft.

Rydyn ni’n gofyn i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr i’n helpu ni i wneud Merthyr Tudful yn un o’r lleoedd hawsaf i gyrraedd pen eu taith trwy feicio neu gerdded, yn hytrach na defnyddio’r car.

Helpwch ni i gwblhau ein Map newydd ar gyfer y Rhwydwaith Teithio Llesol,

Mae’r ymgynghoriad yn weithredol tan 6 Rhagfyr a gallwch ei gyrchu yma: https://merthyrtydfil2.commonplace.is/


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/walking-and-cycling-in-mtcbc Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/walking-and-cycling-in-mtcbc http://www.eincwmtaf.cymru/walking-and-cycling-in-mtcbc Tue, 16 Nov 2021 12:36:00 GMT
Eisteddfod y Rhondda 2021 Dyma neges gyffrous iawn i gyhoeddi Eisteddfod Y Rhondda 2021.

Mae manylion yr Eisteddfod i’w gweld ar ein gwefan www.eisteddfodyrhondda.cymru

Gellir cysylltu â’r Eisteddfod dros e-bost: EisteddfodYRhondda@gmail.com neu dros y cyfryngau cymdeithasol Facebook || Twitter || Instagram.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/eisteddfod-y-rhondda-2021 Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/eisteddfod-y-rhondda-2021 http://www.eincwmtaf.cymru/eisteddfod-y-rhondda-2021 Mon, 16 Aug 2021 13:36:00 GMT
Cymryd Rhan - Asesiadau Llesiant Ar hyn o bryd rydym yn paratoi asesiad newydd o les ar gyfer Cwm Taf Morgannwg - ardaloedd awdurdodau lleol RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae ein cymunedau wedi gweld a phrofi llawer ers cyhoeddi ein hasesiad diwethaf yn 2017 felly mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r amser hwn i gael sgyrsiau sy'n bwysig, a'n bod yn darganfod beth sy'n bwysig i'n cymunedau - yn enwedig o amgylch eu heconomi, cymdeithasol, diwylliannol a lles amgylcheddol.

Rydym yn herio ein hunain i gynnwys ein dinasyddion lawer mwy yn yr Asesiad hwn, ac rydym yn ffodus i gael cefnogaeth gan Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru i helpu gyda hyn, gan ddechrau gyda ‘100 diwrnod o ymgysylltu’. Rydym am glywed am brofiadau, anghenion cyfredol a dyheadau ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morganwwg i gynhyrchu eu Asesiad o Angen Lleol. Trwy weithio gyda'n preswylwyr a'n grwpiau cymunedol, gallwn wrando ar anghenion ein cymunedau a'u deall, ac yna argymell i Lywodraeth Cymru pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles sydd eu hangen neu y mae angen eu gwella dros y pum mlynedd nesaf ( 2023-2028).

Rydyn ni'n caru i chi gymryd rhan: cliciwch yma i ddarganfod mwy a sut y gallwch chi ymuno â ni ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith gyda'n gilydd.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/get-involved-WBA Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/get-involved-WBA http://www.eincwmtaf.cymru/get-involved-WBA Mon, 16 Aug 2021 11:50:00 GMT
Cyfle Swydd: Arweinydd Gweithredu Lleol Mae gan VAMT rôl newydd gyffrous sy'n rhan annatod o gydweithrediad parhaus â Lloyds Bank Foundation (LBF) ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r rôl yn ganolog i lwyddiant gwaith Tîm Datblygu LBF gyda chwe chymuned o dan y Rhaglen Pobl a Chymunedau, lle Merthyr Tudful yw’r unig ranbarth buddiolwyr yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig sydd heb bwysau trwy weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn; gyda llygad da am fanylion, gan alluogi cyflawni'r rhaglen waith hon sy'n dod i'r amlwg gyda rhagoriaeth. Rhaid bod gennych sgiliau trafod, cyfathrebu a chydlynu datblygedig iawn, a deall cymhlethdodau darparu gwasanaeth i bobl sy'n wynebu materion cymdeithasol cymhleth.

I gael y disgrifiad swydd llawn, y fanyleb person a'r ffurflen gais, cliciwch ar y ddolen isod.

Swyddi Gwag – VAMT Merthyr Tudful


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/lbfjob Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/lbfjob http://www.eincwmtaf.cymru/lbfjob Mon, 16 Aug 2021 09:20:00 GMT
Hyrwyddwyr Canser a'ch Iechyd Byddwch yn feistr ar eich iechyd

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion llai adnabyddus canser, a’ch bod yn cysylltu a’ch meddyg os dydy rhywbeth ddim yn iawn.

Gall cysylltu a’ch meddyg teulu yn gynnar olygu ei bod yn haws trin problemau iechyd. Os ydych chi’n nabod rhywun sydd ddim wedi bod yn teimlo’n iawn, dywedwch wrtho neu wrthi am gysylltu a’i meddyg hefyd. Weithiau gall ychydig o anogaeth fod o gymorth mawr.

Os hoffech drafod symptomau canser a’r hyn i’w wneud os byddwch yn sylwi arnynt gydag un o Hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth o Ganser Cwm Taf, ewch i’w tudalen Facebook www.facebook.com/CwmTafCancerChampions


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/cu-ca Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/cu-ca http://www.eincwmtaf.cymru/cu-ca Thu, 01 Jul 2021 07:59:00 GMT
Gwefan Newydd ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn lansio gwefan newydd

Mae gwefan newydd ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg yn fyw heddiw.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn dwyn ynghyd bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, addysg, tai a'r sector preifat i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac i wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Datblygwyd y wefan gyda thrigolion a sefydliadau lleol, a'i nod yw darparu platfform i bobl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Bwrdd a sut i gymryd rhan yn ei waith ysbrydoledig.

Ymhlith y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y Bwrdd y mae pobl ag anableddau dysgu; pobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau; gofalwyr di-dâl; pobl â phroblemau iechyd meddwl; pobl awtistig; pobl ifanc a phlant a phobl hŷn.

Mae partneriaid ar y Bwrdd yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer y grwpiau hyn, fel bod eu canlyniadau lles ac iechyd yn gwella.

Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bwrdd yn cynnal Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn y rhanbarth bob pum mlynedd, sy'n canfod pa wasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion hynny.

Er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn wir yn gwrando ar leisiau pobl leol, bydd yr asesiad yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, sefydliadau a thrigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Bydd y wefan yn chwarae rhan bwysig wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ar hynt y gwaith hwn, ac am sut y gallan nhw gymryd rhan.

Nod y wefan hefyd yw dathlu'r gwaith gwych sy'n digwydd ledled y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd yn gweinyddu ac yn rheoli rhaglenni cyllido, gan gynnwys £12m o'r Gronfa Gofal Integredig a £7m o gyllid y Rhaglen Drawsnewid. 

Mae'r Rhaglen Drawsnewid yn cynnwys saith prosiect iechyd a gofal cymdeithasol ledled y rhanbarth, ac mae’n cyflogi 260 o bobl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae'r Gronfa Gofal Integredig yn cefnogi 68 o brosiectau, yn amrywio o ganolfannau cymunedol i raglen Chwarae â Chymorth ar gyfer plant sy'n agored i niwed.

Trwy gydol pandemig COVID-19, mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd wedi bod yn cefnogi strategaeth 'Profi, Olrhain a Diogelu' Llywodraeth Cymru, ac mae wedi dod â phartneriaid yn y GIG, awdurdodau lleol a'r trydydd sector ynghyd i ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu cefnogaeth i gymunedau.

Yn sail i'r holl waith hwn mae'r Ganolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella, sy'n canfod ac yn cydlynu gwasanaethau a phrosiectau arloesol, i wella gwasanaethau, osgoi dyblygu a hwyluso’r gwaith o rannu arfer da.

Mae’r wefan newydd yn cael ei lansio wrth i'r Cynghorydd Chris Davies ymuno fel Cadeirydd ac wrth i Luke Takeuchi ymuno fel Is-gadeirydd.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Davies, sydd hefyd yn Ddirprwy Arweinydd gyda'r Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Rydw i wrth fy modd i ymuno â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM fel ei gadeirydd. Trwy weithio gyda'n gilydd fel partneriaid, sefydliadau a thrigolion, gallwn sicrhau'r canlyniadau iechyd a lles gorau i'n cymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

“Rydym yn ffodus bod cynifer o bartneriaid angerddol yn eistedd o amgylch y Bwrdd, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi eu cymunedau lleol.

“Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o bobl nad ydyn nhw eto wedi ymwneud â'n gwaith, a allai fod eisiau rhannu eu meddyliau a'u profiadau gyda ni. Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn ein helpu i estyn llaw i'n cymunedau fel y gallwn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu clywed.

“Un man yn unig yw’r wefan. Fe wyddom ni o siarad â'n cymunedau a'n partneriaid fod llawer o bobl yn hoffi cymryd rhan mewn ffyrdd eraill, fel mewn digwyddiadau er enghraifft. Byddwn yn sicrhau bod llawer o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, felly fydd neb yn cael ei adael ar ôl.”

Ychwanegodd Luke Takeuchi, sydd hefyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai RHA yn Rhondda Cynon Taf:

“Rydw i mor falch o fod yn Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, ac i lansio ein gwefan newydd heddiw.

“Mae gwrando ar gymunedau yn ein gwaith a'u cynnwys yn y gwaith hwnnw mor bwysig, ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel aelodau o'r gymuned edrych ar sut gallwn ni wneud y rhanbarth yn lle gwych i fyw a gweithio.

“Rydyn ni'n gwybod y gall cartref unigolyn gael dylanwad enfawr ar ei iechyd meddwl a'i les, felly bydd gweithio gyda'n gilydd yn ein helpu i bontio'r bwlch rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol, a sicrhau ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys cartrefi arbenigol fel y gall pobl fyw’n annibynnol, a phrosiectau sy’n helpu pobl i aros yn egnïol yn eu cymunedau.

“Rydym yn edrych ymlaen at ystyried sut gallwn ni greu mwy o gyfleoedd i bobl fyw'n hapus ac yn annibynnol gyhyd ag y bo modd.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM, cliciwch yma.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/CTMRPB Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/CTMRPB http://www.eincwmtaf.cymru/CTMRPB Tue, 15 Jun 2021 09:20:00 GMT
Dewch i siarad CBSRhCT Mae helpu i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn flaenoriaeth i'r Cyngor RhCT.  Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030, a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r Fwrdeistref Sirol i fod mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn yr un dyddiad.

Rydyn ni wedi dechrau meddwl beth fydd hyn yn ei olygu i'r Cyngor ac i'r Fwrdeistref Sirol yn ein strategaeth ddrafft ar Newid yn yr Hinsawdd. Mae modd dod o hyd iddi yma.  Mae modd i chi ddysgu rhagor am rywfaint o'r gwaith y mae'r Cyngor eisoes yn ei wneud drwy Grŵp Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd

Rydyn ni bellach yn awyddus i ddechrau ymgyrch Trafod yr Hinsawdd er mwyn helpu i lywio a datblygu'r cynlluniau a fydd yn helpu i gyflawni nodau'r Cyngor o ran yr Hinsawdd.  Mae croeso mawr i chi gymryd rhan ac rydyn ni'n awyddus iawn i glywed eich barn.

Os oes gyda chi syniadau am sut y mae modd i'n gwasanaethau fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, rhowch wybod i ni.

Pe hoffech chi roi sylwadau ar ein cynlluniau hyd yma, dweud beth fyddai o fudd i'ch teulu neu'ch cymuned, neu dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn eich cymuned, ymunwch yn ein Sgwrs Hinsawdd yn https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/

Mae modd cyrchu'r wefan ar bob dyfais sydd â'r fersiynau diweddaraf o Microsoft Edge, Chrome Firefox a Safari.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/lets-talk-rctcbc Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/lets-talk-rctcbc http://www.eincwmtaf.cymru/lets-talk-rctcbc Thu, 15 Apr 2021 09:03:00 GMT
Arolwg Canfyddiad Cyhoeddus: Profi ac Imiwneiddio Covid 19 Mae negeseuon a chyfathrebu iechyd cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth hysbysu'r cyhoedd o sut i reoli risgiau ac atal trosglwyddo yn ystod pandemigau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys derbyn a derbyn brechlyn.

Pwrpas yr arolwg hwn yw archwilio canfyddiadau profion COVID-19 a derbyniad imiwneiddio ledled Cymru ymhlith gwahanol grwpiau poblogaeth. Er mwyn ein helpu i lunio'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu, mae barn y rhai sy'n byw, a / neu'n gweithio yng Nghymru yn bwysig iawn i ni.

I gymryd rhan, cliciwch yma


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/survey-c19-testing-and-immunisation Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/survey-c19-testing-and-immunisation http://www.eincwmtaf.cymru/survey-c19-testing-and-immunisation Fri, 12 Mar 2021 12:38:00 GMT
Holiadur Cenedlaethol i Blant a Phobl ifanc yng Nghymru Coronafeirws a Fi: Ionawr 2021

Mae Comisiynydd Plant Cymru eisiau gwrando ar dy farn am sut mae hyn wedi gwneud i ti deimlo a’r effaith mae hyn wedi cael ar dy fywyd.

Mae’r holiadur yma wedi cael ei ysgrifennu i wrando ar dy brofiadau.

Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau'r arolwg, cliciwch yma

Sylwch: Mae'r arolwg yn cau 29 Ionawr 2021


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/Coronavirusandme Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/Coronavirusandme http://www.eincwmtaf.cymru/Coronavirusandme Thu, 21 Jan 2021 09:40:00 GMT
Byddwch yn Effro i Dwyll y Brechlyn Mae troseddwyr yn defnyddio brechlyn COVID-19 fel ffordd o dargedu aelodau'r cyhoedd drwy eu twyllo i drosglwyddo arian parod neu fanylion ariannol. Maent yn anfon negeseuon testun sy'n edrych yn ddilys yn dweud wrth bobl eu bod yn gymwys i gael y brechlyn, neu'n ffonio pobl yn uniongyrchol gan ergus eu bod o'r GIG, neu fferyllfa leol.

Byddwch yn effro i'r sgamiau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y canllawiau a'r poster hwn.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/vaccine-fraud Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/vaccine-fraud http://www.eincwmtaf.cymru/vaccine-fraud Tue, 19 Jan 2021 12:38:00 GMT
Hyrwyddwyr Cymunedol Rydym yn edrych am hyrwyddwyr cymunedol i weithio a chymunedau i hybu iechyd gwell!

Rydyn ni'n awddus i recriwtio tim o bum hyrwyddwr cymunedol i'n helpu gydag astudiaeth newydd o'r enw TIC-TOC sy'n cynnys ymgyrch gyhoeddus dros chwe mis i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser annelwig a chefnogi pobl i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu gyda'r symptomau hyn.

Am fanylion ar y rôl a sut i wneud cais, cliciwch yma

Am ragor o wybodaeth (e.e. ynglŷn â’r rôl, y taliad am eich amser ac ati) cysylltwch â Gwenllian Moody ar moodyg@cardiff.ac.uk


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/community-champions Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/community-champions http://www.eincwmtaf.cymru/community-champions Tue, 12 Jan 2021 12:34:00 GMT
Coronafeirws: Diweddariad yr hydref Ni fu erioed yn bwysicach cadw ein cymunedau yn ddiogel ac yn iach. Dyma rai dolenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi - rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu.

Mae eich Cydgysylltwyr Cymunedol lleol ar gael i helpu:

Merthyr: Claire Williams, 07580 866547, claire.williams@vamt.net

Cynon: Deanne Rebane, 07580 869983, drebane@interlinkrct.org.uk

Taff Ely: Karen Powell, 07580 869970, kpowell@interlinkrct.org.uk

Rhondda Valleys: Lucy Foster, 07580 865938, lfoster@interlinkrct.org.uk

Action Fraud – 0300 123 2040. Gallwch hefyd riportio twyll ar-lein: www.actionfraud.police.uk

Age Connects Morgannwg: Gallwch gysylltu â ni o hyd drwy ffonio 01443 490650. Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn ôl information@acmorgannwg.org.uk

Rydym yn debygol o dderbyn nifer uchel a chynyddol o alwadau/negeseuon e-bost dros yr wythnosau nesaf felly rydym yn amyneddo â ni, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch ffonio'n ôl o fewn 24 awr i'ch galwad.

Gwasanaethau Torri Ewinedd - Clinigau a gynhelir yn:

Swyddfa Age Connect, 5-7 Stryd y Felin, Pontypridd – Bob dydd Mawrth a dydd Mercher

Parc Iechyd Kier Hardie, Merthyr Tudful – Bob dydd Gwener

Taliadau: £15 troedfedd yn unig, £20 dwylo a thread

Ymweliadau cartref: Ar gael ar draws Cwm Taf

Taliadau: £22 troedfedd yn unig, £28 dwylo a thraed

Gellir gwneud atgyfeiriadau/apwyntiadau drwy brif rif Age Connects: 01443 490650 (dewiswch opsiwn 1).

Alzheimer’s Society Cwm Taf: Cymorth dros y ffôn i'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed gan gynnwys galwadau cydymaith i wirio unigolion. Gwasanaeth cyswllt dementia sy'n cynnig cymorth personol i bobl â dementia, eu gofalwyr, eu teulu a'u ffrindiau. Cysylltwch â Kirsty Morgan, 0333 150 34356 dementia.connect@alzheimers.org.uk

Artis Community amserlen newydd yr hydref o ddosbarthiadau sy'n digwydd drwy Zoom:

Cwpan Crefftus – Dydd Llun 10.30am – 12.00pm yn costio £3 y sesiwn

Dawns Oedolion – Dydd Llun 8pm – costiodd 9pm £4 y sesiwn

Sul singalong – Dydd Sul cyntaf pob mis – Am ddim

Mae croeso i bob gallu ac oedran. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 490390 neu e-bostiwch bookings@artiscommunity.org.uk  

A.S.D. Rainbows yn gallu cynnig cymorth o bell i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'u plant awtistig/pryderus. Maent yn cynnig cymorth i deuluoedd, e-bost Asd.rainbows@mail.com neu ganu Adele – 07812102178 Jo – 07872026446 

Barod yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i bobl ifanc, neu unrhyw un sy'n poeni am berson ifanc ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol. Gall pobl ifanc gysylltu â'r sefydliad yn uniongyrchol: Llinell gymorth Datganiadau – 03003330000 neu wneud atgyfeiriad ar-lein yn: https://referrals.daspa.org.uk/tpn/

British Red Cross: cyfeillio ffôn ar gael ar draws Cwm Taf i bobl dros 50 oed. Cysylltwch â Jo ar 07710 066858 i gael rhagor o wybodaeth

Carers Wales: Cyngor a gwybodaeth i ofalwyr. Cymorth ffôn ar gael Llun a dydd Mawrth, 10am – 4pm, cysylltwch ag Amber Powell 0808 808 7777, advice@carersuk.org

Os oes gennych unrhyw bryderon am y sesiynau neu os oes angen cymorth arnoch i gofrestru ar gyfer digwyddiad Care for a Cuppa, anfonwch e-bost at info@carerswales.org

Challenging Behaviour Support CIC: cymorth i rieni a gofalwyr plant ag ymddygiad heriol (gyda diagnosis neu hebddo). Anfonwch e-bost neu anfonwch neges destun at eich enw, eich rhif cyswllt a'ch ardal rydych yn byw ynddi: Info.cbs2014@gmail.com neu 07562223697. Cysylltwch â nhw hefyd ar Facebook

Chatterlines: sefydlwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae Chatterlines yn wasanaeth cyfeillio sydd ar gael i unigolion sy'n unig neu'n ynysig ar hyn o bryd. Rhif ffôn: 01656 753783

Change Step: Cyngor dros y ffôn i gyn-filwyr hŷn. Cysylltwch â Roger Lees, 07442 493939 neu roger.lees@cais.org.uk

City Hospice Bereavement Support: Mae trigolion Rhondda Cynon Taf sy'n byw o fewn yr ardaloedd cod post CF72, CF37, CF38 a CF15 yn gymwys i gael cymorth profedigaeth am ddim. Mae llinell ffôn bwrpasol wedi'i sefydlu ac mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 5pm. Ffôn: 02922 671422 neu e-bostiwch: city.hospice@wales.nhs.uk

Cymru Versus Arthritis: Ar gyfer coronafeirws ac ymholiadau ffôn cyffredinol eraill, cysylltwch â'n llinell gymorth 0800 5200 520.

Diabetes UK: Cael mynediad i'r llinell ofal hon am wybodaeth a chymorth i unrhyw un y mae diabetes wedi effeithio arno, ffoniwch 02920 668276

Home-Start Cymru: Rhoi cymorth i deuluoedd â phlant ifanc drwy gyfnod heriol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'r cyfeiriad e-bost isod. Hefyd yn parhau i recriwtio gwirfoddolwyr newydd. Bydd pob un ohonynt yn ymgymryd â hyfforddiant Home-Start cyn dechrau cefnogi teuluoedd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i Home-Start Cymru gysylltu â ni yn: info@homestartcymru.org.uk

Cwm Taf Morgannwg Mind:  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch info@ctmmind.org.uk neu 01685 707480.

Mae Mind hefyd yn cynnig: Cwnsela ar-lein, cysylltwch â Wendy - 07399 347 745. Gwasanaethau gofal sylfaenol, cysylltwch â Rhiannon - 07399 347 744

Grief Support Cymru: yn gweithio i gefnogi taith unigolyn o galar mewn dull unigol a chleient. Bydd pawb ar ryw adeg yn eu bywyd yn dod ar draws profedigaeth a chyfnod o galar boed hynny drwy golled bersonol neu drwy golled gysylltiedig. Mae pob taith yn unigryw ac yn unigol. Bydd Cymorth Greif Cymru yn cefnogi cleientiaid drwy bedwar cam clir o gymorth: 1. Cyn colli. 2. Cymorth ymarferol. 3. Cymorth gwrando. 4. Symud ymlaen cymorth. Os ydych am gael mynediad at unrhyw gam o'r gwasanaeth, ffoniwch 01443 440510 neu cliciwch ar y wefan.

HAFAL: yn ailagor eu gwasanaethau cyn bo hir yn Aberaman (Aberdâr) a Phentre (Rhondda). Gan y bydd y niferoedd yn cael eu cyfyngu, bydd system benodi ar waith. Bydd mwy o bwyslais ar weithgareddau awyr agored yn yr ardd. Maent hefyd yn parhau i ddarparu cymorth dros y ffôn, ymweliadau ar garreg drws pellter cymdeithasol a sesiynau Teams/Zooms ar gyfer celf a chrefft, barddoniaeth/ysgrifennu creadigol a chwisiau. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01685 884918 neu e-bostiwch cwmtaf@hafal.org

New Horizons ac mae Merthyr a Mind y Cymoedd wedi cyhoeddi eu hamserlen Adfer ar-lein newydd yn ddiweddar. Mae amrywiaeth o gyrsiau a gweithdai i ddewis ohonynt sy'n cynnwys rheoli pryder, meithrin hyder, sgiliau cydnerthu, rheoli dicter a phryder cysylltiedig Covid-19. Ffôn 01685 881113, e-bostiwch info@newhorizonsmentalhealth.co.uk

National Gambling Helpline: mae hyn yn gweithredu 24/7 fel arfer, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unrhyw un y mae problem gamblo yn effeithio arno. Mae cynghorwyr ar gael 24 awr y dydd ar Freephone 0808 8020 133 neu drwy sgwrs fyw ar y we.

Ray of Light Cancer Support: Mae sawl grŵp ar agor ar draws Rhondda Cynon Taf i ofalwyr / teuluoedd sy'n cefnogi rhywun sydd â diagnosis o ganser. Os ydych yn gwybod am rywun a fyddai â diddordeb mewn ymuno ag unrhyw un o'r grwpiau, cysylltwch â Sue ar 07971 349703 neu anfonwch e-bost sue@rayoflightwales.org.uk

Ariennir prosiect Just ASK (Cyngor, Cymorth a Charedigrwydd) gan y Loteri Genedlaethol a daw pob un o'r cyrsiau i'r amau gyda phecyn cychwyn. Mae cymorth dros y ffôn yn cynnig galwad ffôn wythnosol i weld sut mae pobl, ac mae'r côr bob pythefnos hefyd yn agored i unrhyw un y mae canser yn effeithio arno. Mae amserlen ar y wefan lle gallwch gofrestru i ymuno â grŵp, mae popeth am ddim gan gynnwys grwpiau celf a deunyddiau ac ati.

Samaritans Cymru: Cymorth cyfrinachol newydd a llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer y GIG ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gwirfoddolwyr ar gael i gynnig cymorth os ydych wedi cael diwrnod anodd, yn teimlo'n bryderus neu'n cael eu llethu neu os oes ganddynt lawer ar eich meddwl ac mae angen iddynt siarad amdano. Ffoniwch y llinell gymorth am ddim ar 0800 484055, 7am – 11pm 7 diwrnod yr wythnos. I siarad â rhywun yn Gymraeg ffoniwch 0808 1642777

Sporting Memories: Bydd Clybiau ‘Zoom’ newydd yn rhedeg bob dydd Gwener 12.30 – 1.30pm. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y sesiynau i sgwrsio am chwaraeon, chwarae gêm neu wylio clip fideo byr. Efallai y bydd hyd yn oed fwrnau byr o ymarfer corff os yw'n addas! Mae'r sesiynau'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cael eu hynysu, sy'n byw gyda dementia neu faterion iechyd meddwl yn ogystal â'r rhai sydd am gyfarfod a chael sgwrs. Linc i'r ddolen: https://us02web.zoom.us/j/8655638501?pwd=MkpzbEE4TVNqS01kUjZyQkdZZmhsQT09; ID Cyfarfod: 865 563 8501 Cod cyfrin: 509315

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Julie Williams: 07809 467512 neu e-bostiwch julie.williams@thesmf.co.uk

Mae gan y Stroke Association nifer o brosiectau, gan gynnwys 'Community Steps'. Mae hyn yn darparu grwpiau rhithwir ar gyfer goroeswyr strôc a'u gofalwyr yn ystod y cyfnod hwn. Mae amrywiaeth o sesiynau ar gael gan gynnwys grŵp oedran gweithio, côr, ymwybyddiaeth a chelf. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad anfonwch e-bost CommunityStepsWales@stroke.org.uk neu cysylltwch â Lauren ar 07932 265274.

Mae'r ‘Stroke Recovery Service’ yn cynnal sesiwn Nesáu ar gyfer goroeswyr strôc a'u gofalwyr fore Mercher i fod gyda'i gilydd y rhai y mae strôc yn effeithio arnynt ar gyfer cymorth gan gymheiriaid. Mae'r SRS hefyd yn dal i dderbyn atgyfeiriadau i gefnogi goroeswyr strôc gyda gwybodaeth a chyngor. I gymryd rhan, cysylltwch â Gwyneth ar 02920 524421 neu Gwyneth.leivers@stroke.org.uk.

Mae'r gwasanaeth cyfeillio ffôn ‘Here For You’ ar gyfer goroeswyr strôc a'u gofalwyr, Mae'r holl wybodaeth am y gwasanaeth a sut i atgyfeirio i'w gweld yma https://www.stroke.org.uk/finding-support/here-for-you

Tenovus Cancer Care: Bydd y Llinell Gymorth am ddim dan arweiniad nyrsys yn parhau i fod yn agored i ateb cwestiynau gan gleifion canser ac yn wir unrhyw un y mae canser yn effeithio arno. Gall ein nyrsys profiadol gynnig cyngor ar ddiagnosis, triniaeth, sgil-effeithiau, ac unrhyw beth arall sydd ym meddyliau pobl. Ffoniwch 0808 808 1010.

Valleys Steps: Adnoddau ar-lein ar gyfer Mindfulness a Rheoli Straen

Welcome Friends cael gwirfoddolwyr sy'n gallu bod yn gyfaill yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd gêm yn cael ei gwneud gyda gwirfoddolwr sydd wedi dilyn hyfforddiant perthnasol ac sydd ar gael i'w gefnogi. Gall hyn fod dros y ffôn unwaith neu ddwy ar gyfer sgwrs gyfeillgar. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Diane ar 07788 310445 neu anfonwch e-bost diane.matheson@volunteeringmatters.org.uk

 

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020: Bydd Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf Morgannwg yn cynnal 'Y Söm Mawr' ar gyfer WMHD 2020. Mae sefydliadau'r trydydd sector wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu dros 40 o weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol am ddim i ddathlu WMHD. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal rhwng 7 a 15 Hydref.

I archebu lle ewch i dudalen Eventbrite The Big Zoom neu cysylltwch â Maria Abson ar mabson@interlinkrct.org.uk neu 01443 846200.


Kirsty Smith]]>
http://www.eincwmtaf.cymru/coronavirus-autumn20 Kirsty.Smith3@rctcbc.gov.uk (Kirsty Smith) http://www.eincwmtaf.cymru/coronavirus-autumn20 http://www.eincwmtaf.cymru/coronavirus-autumn20 Fri, 02 Oct 2020 11:43:00 GMT